Amdanom ni
Mae CREAD Cyf yn creu dyluniadau a delweddau unigryw er mwyn hyrwyddo cynnyrch neu wasanaeth(au). Rydym, hefyd, yn addo adeiladu gwasanaeth hir-dymor ac ymrwymiad i'n cleientau.

> newyddion diweddaraf
> pecynnau

Profiad
Fel y gwelwch yn y safwe hon mae dros ddeng mlynedd o brofiad a gwybodaeth yn y diwydiannau argraffu a chyfryngol y tu ôl i CREAD Cyf. Daw'r profiad yn bennaf o swydd fel Uwch Swyddog Graffeg gyda Chyngor Ynys Môn a gweithio llawrydd mewn darlledu, yn bennaf gyda'r BBC. Esgorodd y cyfuniad hwn o brofiad yn y diwydiannau cyfryngol a dylunio ar y syniad gwreiddiol o ffurfio cwmni a allai gynnig y ddau wasanaeth. Yna gwnaed penderfyniad i sefydlu CREAD Cyf.

- Dylunio Graffeg
- Cyfryngau

Gweledigaeth, Amcan
Ein gwelediageth a'n hamcan yn CREAD Cyf yw adeiladu ar wybodaeth a phrofiad helaeth, gan gyflawni'r dasg a roir inni i'r safonau uchaf posibl, gan fynd ymhellach na gofynion a disgwyliadau'r cleient. Rydym yn ymrwymo'n llawn i unrhyw brosiect, a phob amser yn cynhyrchu ateb creadigol unigryw i anghenion a briff y cleient
…gweledigaeth greadigol gan CREAD Cyf.